#

Y Pwyllgor Deisebau | 13 Medi 2016

Petitions Committee | 13 September 2016

 

 

 

Ailenwi Maes Awyr Caerdydd

 

 

 

 


Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil:

Rhif y ddeiseb: P-05-698

Teitl y ddeiseb: Ailenwi Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd yn Maes Awyr Rhyngwladol y Dywysoges Diana

Testun y ddeiseb: Rydym ni sydd wedi llofnodi isod yn galw ar Lywodraeth Cymru i ailenwi Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd yn "Maes Awyr Rhyngwladol y Dywysoges Diana”.

 

Trwy ailenwi Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd, gellir cael mwy o gyhoeddusrwydd a chwsmeriaid o Gymru.

Cefndir

Prynodd Llywodraeth Cymru'r maes awyr ar 27 Mawrth 2013 am £52 miliwn, i'w weithredu ar sail fasnachol ar hyd braich oddi wrth Weinidogion.

Mae tri o feysydd awyr y DU wedi eu henwi ar ôl unigolion:

§    Yn 2001, newidiwyd enw Maes Awyr Lerpwl i Faes Awyr Lerpwl John Lennon;

§    Yn 2006, newidiwyd enw Maes Awyr Dinas Belfast i Faes Awyr Dinas Belfast George Best;

§    Mae Maes Awyr Doncaster Sheffield hefyd yn defnyddio'r enw Maes Awyr Robin Hood, neu Faes Awyr Robin Hood Doncaster Sheffield.

Mae'r syniad o ailenwi Maes Awyr Caerdydd yn cael sylw yn y cyfryngau o bryd i'w gilydd. Yn 2014, cafwyd awgrym gan Geraint Davies AS y gellid newid yr enw i Faes Awyr Rhyngwladol Caerdydd Dylan Thomas.

Cafodd brand Maes Awyr Caerdydd ei ddiwygio yn 2009, pan newidiwyd yr enw o Faes Awyr Rhyngwladol Caerdydd i 'Faes Awyr Caerdydd' a 'Cardiff Airport', ac fe gyflwynwyd brand gweledol a logo newydd ar yr un pryd.

Camau gweithredu Llywodraeth Cymru

Nid yw Llywodraeth Cymru wedi awgrymu bod newid enw Maes Awyr Caerdydd yn un o'i blaenoriaethau. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru wedi nodi y byddai newid enw'r maes awyr yn fater gweithredol i Faes Awyr Caerdydd.

Camau gweithredu Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn 2014, bu Pwyllgor Deisebau'r Cynulliad yn trafod deisebi ailenwi Maes Awyr Caerdydd yn Faes Awyr Rhyngwladol Robert Owen Cymru, er cof am yr arloeswr o Gymru a chwaraeodd ran flaenllaw yn y Mudiad Cydweithredol. Dywedodd y Gweinidog cyfrifol blaenorol nad oedd unrhyw gynlluniau i ailenwi'r maes awyr, felly caewyd y ddeiseb.

Cyflwynwyd dwy ddeiseb arall yn galw am ailenwi Maes Awyr Caerdydd yn ystod y Pedwerydd Cynulliad, ond ystyriwyd bod y ddwy yn annerbyniadwy. Roedd un o'r deisebau hynny yn galw am ailenwi'r maes awyr yn Awyrle Dewi Sant Airport. Roedd yn annerbyniadwy am fod y Pwyllgor wedi ystyried deiseb debyg iawn yn ystod y 12 mis blaenorol (y ddeiseb y cyfeirir ati uchod). Barnwyd bod y ddeiseb arall yn annerbyniadwy am ei bod yn defnyddio iaith y gellid ei hystyried yn dramgwyddus.

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw'r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na'u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.